• A gaf i fabwysiadu?

    Mae pob math o bobl yn mabwysiadu. Yr hyn sydd bwysicaf yw eich gallu i ofalu am blentyn a darparu cartref diogel a chadarn trwy gydol eu plentyndod a thu hwnt.

    Mae’n syndod sawl myth sy’n parhau i fodoli ynglŷn â phwy gaiff a phwy na chaiff fabwysiadu. Mewn gwirionedd, ychydig iawn o gyfyngiadau sydd ynglŷn â mabwysiadu. Mae hi’n haws rhestru’r hyn a fyddai’n eich gwahardd yn awtomatig mewn gwirionedd.

    Oedran – mae’n rhaid i chi fod dros 21 oed

    Lleoliad – mae’n rhaid i chi fod yn byw yn y DU

    Statws Perthynas – mae angen i chi fod wedi bod yn eich perthynas bresennol am o leiaf 2 flynedd

    Cofnod Troseddol – ni chewch chi nac unrhyw un sy’n preswylio gyda chi fod ag unrhyw rybuddion na chollfarnau yn ymwneud â phlant yn eich erbyn

    Dyna ni! Er y bydd sawl ffactor arall yn cael ei ystyried, ni fydd unrhyw un ohonyn nhw’n eich atal yn awtomatig rhag cael mabwysiadu.

    Rydym yn awyddus ar hyn o bryd i glywed gan ddarpar fabwysiadwyr sydd â diddordeb mewn mabwysiadu plant sydd ychydig yn hŷn, rhai ag anghenion ychwanegol a grwpiau o frodyr a chwiorydd.

  • Beth sydd ei angen i fod yn rhiant sy’n mabwysiadu?

    Mae’r rhinweddau sydd eu hangen i fod yn rhiant sy’n mabwysiadu yr un fath â rhinweddau unrhyw riant arall. Y cwbl sydd ei angen yw i chi fod â hyder yn eich gallu i ymdopi.

    Yn y bôn, bydd angen i chi roi cariad, sefydlogrwydd a diogelwch bywyd teuluol i’r plentyn rydych chi’n ei fabwysiadu – rhywbeth na fydd efallai wedi ei brofi o’r blaen.

    Bydd angen i chi allu cynnal plentyn yn ariannol, er nad yw’n angenrheidiol bod gennych lawer o arian na hyd yn oed eich bod yn berchen ar dŷ. Cewch wneud cais am gredydau treth a budd-daliadau i ychwanegu at eich incwm ac mae’n bosibl y bydd cymorth ariannol arall ar gael.

    Pan fyddwch yn mabwysiadu gyntaf, bydd disgwyl i un partner gymryd seibiant o’r gwaith am rhwng 6 a 12 mis i helpu’r plentyn i ymgartrefu. Mae absenoldeb mabwysiadu statudol â thâl ar gael i helpu gyda hyn.

    Bydd llawer o blant sy’n aros i gael eu mabwysiadu wedi cael dechrau anodd i’w bywydau, felly bydd angen llawer o gefnogaeth arnyn nhw i oresgyn problemau eu bywydau ansefydlog. Y nod allweddol yw dod â threfn, sefydlogrwydd a chariad i’w bywydau.

    Mae mabwysiadu’n ymroddiad gydol oes sy’n gofyn am sgil, empathi, egni, amynedd – a synnwyr digrifwch! Ond yn y pen draw byddwch yn gweddnewid bywyd plentyn am byth trwy ei wneud yn rhan o deulu hapus a bodlon.

    Os ydych yn credu bod gennych le yn eich cartref ac yn eich calon, mae siawns da y cewch fabwysiadu.

  • Darllenwch ein pecyn gwybodaeth manwl.  Yng nghefn y pecyn, mae ffurflen Cofrestru Diddordeb.  Os hoffech chi i ni gysylltu â chi a chael ymweliad i gychwyn y broses, llenwch y ac anfonwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb atom ni neu ffoniwch ni. Fel arall, llenwch y dudalen ymholiadau a nodwch eich manylion, ac fe wnawn ni gysylltu â chi cyn gynted ag y bo modd.

  • Gadewch i ni chwalu chwedlau am fabwysiadu!

    Bydd mabwysiadwyr yn aml yn dymuno gwybod a allant fabwysiadu baban.   Yr ateb yn syml yw ‘gallant’.   Mae arnom ni angen mabwysiadwyr ar gyfer ystod oedran eang, yn amrywio o fabanod hyd at blant sy’n 8 mlwydd oed.   Byddwn yn trin bob ymholiad yn unigol, felly cysylltwch â ni i gael sgwrs anffurfiol ag un o’n gweithwyr cymdeithasol profiadol.

    Bydd darpar fabwysiadwyr yn aml yn meddwl fod y broses yn un faith ac anodd, ond nid yw hynny’n wir.   Bydd arnom angen 8.2 mis ar gyfartaledd o’r ymholiad hyd at gymeradwyo.  Felly, mae’r amser asesu yn llawer llai na hyn, oddeutu 4-5 mis.

    Peidiwch â Chredu Ni?

    Gwrandewch i'n Mabwysiadwyr Cymeradwy
  • “Mae’r broses wedi bod yn wych i ni.   Mae wedi bod yn syml iawn ac mae pawb oedd yn rhan o’r broses wedi bod yn barod iawn i gynorthwyo a chefnogi.”

    “Pan oedd ein plentyn 7 mlwydd oed yn anodd ei drin, fe wnaeth ein gweithiwr cymdeithasol roi cymorth a chyngor gwych i bawb ohonom, ac fe wnaeth barhau i’n cynorthwyo nes oeddem ni’n hapus.   Mae gwybod y gallwn ni gysylltu â’r tîm i gael cyngor a chymorth os bydd angen hynny mor galonogol. “

  • “Rydym wedi mabwysiadu plentyn oedd yn 5 ½ pan gafodd ei leoli gyda ni.  Mae’r buddion rydym ni wedi’u cael yn sgil mabwysiadu plentyn hŷn yn gorbwyso’r anawsterau, heb os.

    Buddion:
    Mae eich plentyn yn fwy annibynnol
    Rydych chi’n gwybod beth sy’n eich wynebu chi. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn meddwl mai mabwysiadu baban iau na dyflwydd oed sydd orau.  Byddai hyn wedi bod yn hyfryd, ond  roeddem ni’n dymuno cael plentyn oedd â rhagolygon mwy pendant o ddatblygu.   
    Roeddem ni’n disgwyl oedi datblygol, ond mae gennym ni blentyn sy’n cerdded ac yn siarad ac yn debygol o fynd ati i fyw bywyd annibynnol.
    Efallai bydd yn haws i’ch plentyn ddeall pam mae wedi cael ei leoli gyda chi ac efallai bydd yn gallu mynegi ei bryder.
    Byddwch chi’n rhoi cyfle i blentyn hŷn gael cartref teuluol normal.”

  • Diddordeb mewn mabwysiadu?