-
Yno i chi bobcam o'r ffordd.
Mae Bae’r Gorllewin yn cynnwys asiantaethau mabwysiadu tri awdurdod lleol sy’n cydweithredu, sef Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe.
Trwy gydweithio, mae gwasanaeth Bae’r Gorllewin yn cynnig gwell gwasanaeth cymorth mabwysiadu ar gyfer darpar fabwysiadwyr, rhieni sy’n mabwysiadu, plant a fabwysiadwyd a’r oedolion hynny a fabwysiadwyd yn blant.
Ein nod yw darparu’r gwasanaethau gorau posibl ar gyfer mabwysiadu – ac mae ein gwasanaeth lleol, a gydlynir yn ganolog, yn ein galluogi i baru plant gyda mabwysiadwyr â chyn lleied o oedi â phosibl. Rydym yn gwybod am yr holl blant sy’n aros am deuluoedd newydd yn ein tair bwrdeistref sirol a’n nod yw gwneud yn siŵr bod y plant yn cael eu cysylltu a’u paru gyda’r teuluoedd a fydd yn diwallu eu hanghenion orau.
-
-
Darganfyddwch y llawenydd o fod yn rhiant.
Mae ein hymrwymiad i gydweithio’n agos yn sicrhau fod profiad mabwysiadwyr yn y rhanbarth heb ei ail. Byddwn yn ceisio cyn lleoli ein plant gydag asiantaethau yng Nghymru cyhyd ag y gallwn ni ac os bydd hynny’n briodol i’r plentyn a’r mabwysiadwyr. Mae hyn yn ein helpu ni i gydweithio’n agosach er lles pawb i helpu’r ystod eang o blant y mae angen teulu cariadus arnynt. Byddwn yn ceisio gwneud beth bynnag sy’n ofynnol i helpu darpar fabwysiadwyr yn ystod eu taith tuag at ddod yn rhieni cariadus a medrus fel y rhai mae ein plant yn eu haeddu.
Mae ein plant i gyd yn bwysig i ni ac rydym yn croesawu eich diddordeb mewn cynnig cartref i blentyn.
-
Darllenwch ein pecyn gwybodaeth manwl. Yng nghefn y pecyn, mae ffurflen Cofrestru Diddordeb. Os hoffech chi i ni gysylltu â chi a chael ymweliad i gychwyn y broses, llenwch y ac anfonwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb atom ni neu ffoniwch ni. Fel arall, llenwch y dudalen ymholiadau a nodwch eich manylion, ac fe wnawn ni gysylltu â chi cyn gynted ag y bo modd.
-
Diddordeb mewn mabwysiadu? Fe hoffem glywed gennych chi.