-
Gwasanaethau eraill
Rydym yn cynnig gwasanaethau eraill i yn ogystal â dod o hyd i bobl fabwysiadu plant a phobl ifanc. Ac nid yw’n gwasanaeth yn dod i ben ar ôl i ni gymeradwyo mabwysiadwyr a pharu plentyn gyda theulu ychwaith.
Rydym hefyd yn darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i’r canlynol:
- rhieni sydd eisoes wedi mabwysiadu / wedi eu cymeradwyo i fabwysiadu;
- plant sydd wedi eu mabwysiadu – yn cynnwys y rhai sy’n oedolion erbyn hyn;
- rhieni gwarchodwyr plant o’r fath; a
- theuluoedd a pherthnasau biolegol.
-
-
-
A ydych chi’n blentyn neu’n berson ifanc a fabwysiadwyd?
Rydym yn cynnig cymorth yn y ffyrdd canlynol:
- gwrando ar eich sylwadau a’ch teimladau;
- eich helpu i ddeall eich hanes biolegol;
- rhoi cymorth i chi ysgrifennu llythyrau blwch post;
- darparu cymorth a chydgysylltu ag asiantaethau eraill.
Gellir lawrlwytho ein Canllaw i Blant i fabwysiadu yma.
-
A ydych chi’n oedolyn a fabwysiadwyd?
Os ydych chi’n byw yn rhanbarth Bae’r Gorllewin ac yn dymuno cael gafael ar eich cofnodion geni, gallwn gynnig y canlynol:
- cymorth gan weithiwr mabwysiadu profiadol a fydd yn eich helpu i gael gafael ar eich cofnodion geni a’u rhannu â chi – er y bydd angen i chi fod yn 18 oed i gael gwneud hyn. Byddwn hefyd yn eich helpu i ddeall pam y cawsoch eich mabwysiadu ac yn trafod eich teimladau ynglŷn â hynny gyda chi;
- gwybodaeth ynglŷn â’r gofrestr gyswllt ar gyfer mabwysiadau. Mae hon yn rhoi oedolion a fabwysiadwyd a’u perthnasau biolegol mewn cyswllt â’i gilydd (os ydyn nhw wedi’u cofrestru);
- cyfeirio at asiantaethau a all eich helpu i ddod o hyd i’ch perthnasau biolegol;
- gwasanaeth cyfryngu – os byddwch chi’n dod o hyd i berthynas biolegol, byddwn ni’n cysylltu â nhw ar eich rhan i ddechrau, ac yn eich cefnogi trwy broses yr aduniad.
-
-
-
A ydych chi’n berthynas fiolegol?
A oes gennych chi gwestiynau ynglŷn â mabwysiadu? Os oes angen cyngor, gwybodaeth neu gymorth arnoch, gallwn eich helpu. Mae gan berthnasau biolegol hawl i gael eu hasesu ar gyfer gwasanaethau penodol a allai gynnwys:
- cyngor a gwybodaeth gyffredinol ynglŷn â mabwysiadu;
- eich cefnogi chi, fel rhiant biolegol, yn ystod achosion gofal pan fo gan eich plentyn gynllun mabwysiadu. Gallwn eich helpu i ddeall y broses fabwysiadu gan gynnwys trefniadau cyswllt ar ôl mabwysiadu a beth mae hyn yn ei olygu i chi. Gallwn eich cefnogi trwy ddarparu gwybodaeth am eich plentyn, eich helpu i ymdopi â’ch teimladau, a’ch cyfeirio at wasanaethau eraill os yw hynny’n briodol;
- darparu cymorth a chyngor o ran trefniadau cyswllt ar ôl mabwysiadu gan gynnwys anfon llythyrau trwy ein gwasanaeth blwch llythyrau;
- eich cyfeirio at asiantaethau sy’n gallu helpu perthnasau biolegol sy’n dymuno cysylltu â phlentyn a fabwysiadwyd sydd dros 18 oed;
- rhoi gwybodaeth ynglŷn â’r gofrestr cyswllt mabwysiadu. Mae hyn yn rhoi oedolion a fabwysiadwyd a’u perthnasau biolegol mewn cyswllt â’i gilydd os ydyn nhw wedi’u cofrestru.
-
Gwasanaeth Blwch Llythyrau Mabwysiadu
Mae ein gwasanaeth blwch llythyrau’n darparu ffordd gyfrinachol a diogel o gyfnewid gwybodaeth rhwng y teuluoedd biolegol a mabwysiedig.
Mae’r gwasanaeth yn cynnig y canlynol:
- gwasanaeth agor a darllen llythyrau ar gyfer nodi anghenion cymorth ac er mwyn sicrhau cyfrinachedd;
- cymorth i ysgrifennu llythyrau;
- cyfryngu rhwng pob parti er mwyn sicrhau bod yr hyn a gytunir yn bodloni anghenion y plentyn;
- adolygu cytundebau yn ymwneud â’r blwch llythyrau.
-
-
Darllenwch ein pecyn gwybodaeth manwl. Yng nghefn y pecyn, mae ffurflen Cofrestru Diddordeb. Os hoffech chi i ni gysylltu â chi a chael ymweliad i gychwyn y broses, llenwch y ac anfonwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb atom ni neu ffoniwch ni. Fel arall, llenwch y dudalen ymholiadau a nodwch eich manylion, ac fe wnawn ni gysylltu â chi cyn gynted ag y bo modd.
-
Taflen Llythyren ar gyfer teulu geni
Taflen Llythyrau i fabwysiadwyr
Taflen cymorth mabwysiadu
Taflen Llythyrau i Blant