• Jacob

    Ddim yn flwydd eto.

     

    Cyswllt: Cyswllt anuniongyrchol trwy Letterbox â’r teulu biolegol

  • Mae Jacob yn faban hardd sydd â llygaid gwyrdd disglair a gwallt melyn tywyll. Mae’n faban hapus a bodlon sydd wrth ei fodd yn gwrando ar bobl yn canu iddo ac fe wnaiff ymateb â gwên hynod o annwyl. Mae Jacob yn faban llafar a wnaiff weiddi a byrlymu ei wefusau ac mae llwyddo i gyflawni ei holl gerrig milltir datblygiadol. Bydd Jacob yn mwynhau cael cwtsh a’i ddiden pan fydd yn mynd i gysgu. Mae wedi cychwyn diddyfnu a dywedir ei fod yn mwynhau’r rhan fwyaf o flasau!

     

    Mae ar Jacob angen mabwysiadwyr cariadus a gofalgar a fyddai’n gallu sicrhau fod ganddo amgylchedd diogel ble gall dyfu.

  • Daliwch sylw: mae’r proffil hwn wedi cael ei greu i gynnig awgrym o’r math o blant sy’n rhan o Wasanaeth Mabwysiadu Bae’r Gorllewin ac sy’n chwilio am deuluoedd mabwysiadol. Nid yw’n broffil o blentyn go iawn.