-
Katie & Emma
Mae Katie yn 3 blwydd oed
Mae Emma yn 5 mlwydd oed
Cyswllt: Yn anuniongyrchol â’r teulu biolegol trwy gyfrwng Blwch Post
-
-
Mae Katie ac Emma yn chwiorydd llawn. Mae gan y ddwy wallt brown a phryd golau.
Disgrifir Katie fel geneth chwilfrydig, gyfeillgar a hyderus. Mae Katie wrthi’n sefydlu perthnasoedd cadarnhaol â’r chyfoedion.
Mae Katie yn hoffi chwarae â’i dol baban a phran, Paw Patrol a gwneud gwaith celf a chrefft.
Mae Katie wedi dysgu sut i fynd i’r toiled ei hun ac nid oes ganddi unrhyw anghenion ychwanegol.
Mae Emma yn ferch fach hapus a gofalgar sydd â phersonoliaeth mawr.
Mae Emma yn hoffi chwarae rhan â’i chegin smalio, ac mae hi hefyd yn hoffi Doc McStuffin, My Little Pony a thywysogesau Disney.
Nid oes gan Emma unrhyw anawsterau iechyd ac mae hi’n cyflawni’n dda yn yr ysgol. Mae Emma wedi profi anawsterau emosiynol / ymddygiad ysgafn ac mae hi ar hyn o bryd yn mynychu sesiynau therapy chwarae wythnosol i’w helpu i gysylltu ei hemosiynau â’i sefyllfa.
-
Daliwch sylw: mae’r proffil hwn wedi cael ei greu i gynnig awgrym ynghylch y math o blant sy’n rhan o Wasanaeth Mabwysiadu Bae’r Gorllewin ac sy’n chwilio am deuluoedd mabwysiadol. Nid yw’n broffil o blant go iawn.
-