-
Mabwysiadwch gyda ni
Er bod mabwysiadu yn brofiad gwerth chweil, gall hefyd fod yn anodd ar adegau – dyw e ddim yn fêl i gyd. Dyna pam mae’n bwysig ein bod yn darparu aelodau profiadol o staff i arwain a chynorthwyo mabwysiadwyr drwy’r broses fabwysiadu.
Mae profiad yn dod â gwell dealltwriaeth yn ei sgîl o’r gwahanol emosiynau mae’r mabwysiadwyr yn eu profi ar wahanol adegau a’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i’w helpu trwy’r cyfnod anodd hwn.
Rydym yn gweithio er lles pennaf plant, pobl ifanc a’u teuluoedd i sicrhau ein bod yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w bywydau – a’ch bywyd chithau hefyd! Rydym yn ymfalchïo yn ein proses baru ac mewn sicrhau ein bod yn cael pethau’n iawn ar eich cyfer chi a’r plentyn.
-
-
-
Yn y pen draw, mae mabwysiadu’n benderfyniad gydol oes ac mae’n effeithio ar bawb sy’n gysylltiedig. Rydym yn cydnabod y gall fod angen cymorth ar deuluoedd sy’n mabwysiadu ar wahanol adegau felly rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn darparu amrywiaeth o gefnogaeth a chyngor o ansawdd uchel, cyn ac ar ôl mabwysiadu.
Byddwn yn gweithio gyda chi ynglŷn â’r canlynol:
- y penderfyniad i fabwysiadu;
- hyfforddiant ar gyfer paratoi i fod yn rhiant sy’n mabwysiadu;
- dod o hyd i’r plentyn / plant cywir ar eich cyfer chi;
- rhoi cyfle i chi ddysgu am eich plentyn a dod i’w ddeall yn ystod y cyfnod cyflwyno;
- wrth i chi ymgyfarwyddo a dysgu cyd-fyw fel teulu;
- unrhyw bryd ar ôl y lleoliad a’r mabwysiadu ffurfiol, pan fydd angen cyngor neu gymorth arnoch.
-
Mae Bae’r Gorllewin yn cynnig pecyn helaeth o gefnogaeth i’n teuluoedd sy’n mabwysiadu gan gynnwys:
- cyrsiau hyfforddiant wedi’u teilwra’n benodol ar gyfer anghenion y mabwysiadwr a’r plentyn a fabwysiadwyd;
- lwfans mabwysiadu mewn rhai achosion;
- hyfforddiant a grwpiau cymorth ar ôl mabwysiadu;
- gweithgareddau cymdeithasol ar gyfer mabwysiadwyr a phlant sydd wedi cael eu mabwysiadu;
- cyfeillio â rhieni eraill sydd wedi mabwysiadu;
- cyfeirio at wasanaethau perthnasol a chynorthwyo i gael mynediad iddynt;
- gwaith uniongyrchol gyda phlant a theuluoedd;
- llyfr bywyd ar gyfer y plentyn a fabwysiadwyd a’r teulu sy’n mabwysiadu;
- cefnogaeth gydol oes gan Dîm Bae’r Gorllewin.
Gallwch newid dyfodol plentyn. Trwy roi cartref diogel a chariadus am oes i blentyn, byddwch yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Bydd yn heriol weithiau, ond bydd yn rhoi llawer o foddhad hefyd.
-
-
Darllenwch ein pecyn gwybodaeth manwl. Yng nghefn y pecyn, mae ffurflen Cofrestru Diddordeb. Os hoffech chi i ni gysylltu â chi a chael ymweliad i gychwyn y broses, llenwch y ac anfonwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb atom ni neu ffoniwch ni. Fel arall, llenwch y dudalen ymholiadau a nodwch eich manylion, ac fe wnawn ni gysylltu â chi cyn gynted ag y bo modd.
-
Diddordeb mewn mabwysiadu?