-
Beth yw’r broses ar gyfer mabwysiadu?
O’r eiliad pan fyddwch yn ystyried mabwysiadu am y tro cyntaf, rydych eisoes wedi cychwyn ar y broses o fabwysiadu ac o ddarganfod a yw’n rhywbeth sy’n bendant yn addas ar eich cyfer chi.
Bydd gweithwyr cymdeithasol a staff gyda chi ar bob cam o’r daith, a’u gwaith nhw yw gwneud yn siŵr mai chi yw’r rhieni gorau posibl i’r plant sydd angen teulu am byth.
Faint o amser mae’n ei gymryd?
Ar ôl i chi wneud y penderfyniad pwysig i fabwysiadu, a fydd yn newid eich bywyd, mae’n ddealladwy y byddwch yn dymuno i’r broses fod mor gyflym â phosibl. Mae aros am rywbeth rydych chi wir ei eisiau yn brofiad anodd a rhwystredig. Ar y llaw arall, nid yw hyn yn rhywbeth y gallwn ei ruthro. Mae’n rhaid i ni ofalu bod mabwysiadu’n gwbl addas ar eich cyfer chi, ac yn hynod bwysig, ein bod yn paru plant yn gywir gyda theuluoedd addas.
Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Bae’r Gorllewin yn falch o’r enw da sydd ganddo ynglŷn ag asesu a chymeradwyo’r rhan fwyaf o ddarpar fabwysiadwyr o fewn pump i saith mis, gan gadw mewn cysylltiad â nhw’n gyson.
Mae’n amhosibl bod yn hollol bendant ynglŷn â hyd yr holl broses am amryw o resymau. Mae rhai materion y tu hwnt i reolaeth yr asiantaeth oherwydd bod yn rhaid i bobl eraill eu cwblhau. Hefyd, mae rhai asesiadau yn cymryd mwy o amser nag eraill oherwydd y materion sy’n codi.
-
-
-
A oes unrhyw gostau ynghlwm â mabwysiadu?
Disgwylir i ymgeiswyr dalu cost eu harchwiliad meddygol; mae hyn fel arfer yn llai na £100. Pan wneir cais am orchymyn mabwysiadu i’r llys, disgwylir i’r mabwysiadwyr dalu’r costau sy’n gysylltiedig â gwneud y cais (£170). Os bydd y cais am orchymyn mabwysiadu’n cael ei herio, bydd yr asiantaeth yn trafod gyda’r ymgeiswyr sut y bydd y costau cyfreithiol yn cael eu talu. Efallai bydd costau ychwanegol ar gyfer ymgeiswyr sy’n dymuno mabwysiadu plentyn o dramor.
-
Cyfarfod Cychwynnol
Ar ôl i chi gysylltu â’r tîm a phenderfynu eich bod yn dymuno parhau â’r broses, bydd cyfarfod cychwynnol yn cael ei drefnu rhyngoch chi â gweithiwr cymdeithasol.
Os ydych chi a’r asiantaeth yn teimlo, ar ôl y cyfarfod, y dylid cymryd y cam nesaf, cewch eich gwahodd i lenwi ffurflen gais. Yn y ffurflen byddwch yn rhoi caniatâd i ni ddechrau’r broses o gynnal y gwiriadau angenrheidiol, i’ch gwahodd i dderbyn hyfforddiant ac i neilltuo eich achos ar gyfer asesiad.
-
-
-
Gwiriadau
Cynhelir y broses fabwysiadu mewn modd gofalus a thrylwyr. Mae’n ofynnol i asiantaethau mabwysiadu wneud yn siŵr eu bod yn diogelu ac yn amddiffyn y plant y maen nhw’n eu lleoli rhag dioddef rhagor o boen neu niwed.
Felly, yn ogystal â thrafod eu profiadau a’u hagweddau gyda’r darpar fabwysiadwyr eu hunain, mae’n rhaid i asiantaethau holi barn pobl eraill, a chadarnhau hefyd y wybodaeth sydd ganddynt a allai awgrymu bod achos i bryderu.
Mae’r broses yn cynnwys gwiriad llawn gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, a gwiriadau iechyd ac amddiffyn plant. Os oes problem, byddwn yn trafod hyn gyda chi er mwyn gweld a yw’n peri pryder ynglŷn â’ch addasrwydd i fabwysiadu.
-
Hyfforddiant
Mae hyfforddiant yn rhan bwysig o’r broses. Mae’n rhoi cyfle i chi ystyried y materion penodol sy’n gysylltiedig â mabwysiadu ac yn rhoi cyfle i chi gyfarfod ag eraill sy’n mynd trwy’r un broses â chi. Byddwch hefyd yn cael cyfle i gyfarfod â mabwysiadwyr profiadol a fydd yn rhannu rhai o’u profiadau â chi ac yn ateb cwestiynau. Efallai y byddwch yn teimlo nad oes angen hyfforddiant arnoch chi, yn enwedig os oes gennych chi blant eich hun eisoes, oherwydd eich profiad. Er bod y ffaith fod gennych blant eich hun yn brofiad gwerthfawr, mae’n bwysig cofio hefyd bod gofalu am blentyn a leolir gyda chi yn brofiad gwahanol. Bydd angen i chi fod yn barod i wynebu’r math o ymddygiad a geir gan blant o ganlyniad i ddioddef colled, trawma neu gael eu cam-drin. Bydd hyfforddiant yn cynnwys y canlynol:
- y broses fabwysiadu;
- sgiliau magu plant sylfaenol a datblygiad plant;
- anghenion plant sy’n aros i gael eu mabwysiadu, gan gynnwys gwybodaeth ynglŷn â gwahanu, ymlyniad, colled ac effaith cael eu cam-drin;
- safbwynt y teulu biolegol, hunaniaeth, treftadaeth a chyswllt;
- gofalu am grwpiau o frodyr a chwiorydd;
- rheoli anghenion iechyd cymhleth;
- materion ynglŷn â chydraddoldeb, gan gynnwys ethnigrwydd, anabledd, crefydd a thueddfryd rhywiol;
- materion cyfreithiol a hawliau mabwysiadwyr;
- cefnogaeth ar gyfer mabwysiadu a hyfforddiant parhaus;
- rheoli straen a phwysigrwydd gwydnwch.
-
-
Darllenwch ein pecyn gwybodaeth manwl. Yng nghefn y pecyn, mae ffurflen Cofrestru Diddordeb. Os hoffech chi i ni gysylltu â chi a chael ymweliad i gychwyn y broses, llenwch y ac anfonwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb atom ni neu ffoniwch ni. Fel arall, llenwch y dudalen ymholiadau a nodwch eich manylion, ac fe wnawn ni gysylltu â chi cyn gynted ag y bo modd.
-
-
Asesiad
1. Yr astudiaeth gartref
Bydd gofyn i chi gael asesiad neu astudiaeth gartref, a fydd yn cynnwys cwblhau adroddiad cynhwysfawr ar gyfer y panel mabwysiadu. Y gweithiwr cymdeithasol sy’n asesu fydd yn cwblhau’r adroddiad hwn.
O fisoedd i rannu gwybodaeth ynglŷn ag anghenion plant sydd angen cael eu mabwysiadu a hefyd i gasglu gwybodaeth amdanoch chi a’ch teulu er mwyn i’r asiantaeth allu penderfynu cefnogi’ch cais neu beidio.
Bydd unrhyw broblemau neu bryderon sy’n codi yn ystod y cyfnod asesu yn cael eu trafod yn uniongyrchol â chi. Bydd ail weithiwr cymdeithasol yn ymweld â chi, sy’n rhoi cyfle i gael ail farn.
Pan fydd yr adroddiad wedi’i gwblhau, anfonir copi atoch chi a chewch gyfle i wneud sylwadau. Bydd yr adroddiad wedyn yn cael ei gyflwyno i banel o bobl a fydd yn gwneud argymhelliad i’r asiantaeth o ran a ydyn nhw’n credu y dylech chi gael eich cymeradwyo ai peidio.
2. Cymwyseddau neu Sgiliau a Galluoedd
Mae llawer o’r sgiliau, profiadau a galluoedd y mae eu hangen ar gyfer mabwysiadu eisoes gan y rhan fwyaf o ymgeiswyr, hyd yn oed y rhai nad oes ganddynt fawr o brofiad gyda phlant.
Byddwn yn eich helpu i lunio portffolio o’ch profiad a’ch gallu. Mae’n bwysig ein bod yn ceisio nodi’r sgiliau a’r profiad sydd gennych eisoes a sefydlu lle y gallai fod bylchau yn eich sgiliau, er mwyn i ni allu eich helpu i fagu profiad, neu roi gwybodaeth neu gymorth ychwanegol i chi.
Peidiwch â phoeni, mae’r rhan fwyaf o bobl yn synnu faint o brofiad a sgiliau sydd ganddyn nhw eisoes a byddwn yn rhoi digonedd o gymorth a chyngor ynglŷn â chwblhau’r dasg.
-
Y Panel
Mae’r panel yn cynnwys pobl o gefndiroedd amrywiol, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol o faes mabwysiadau, mabwysiadwyr a rhai a fabwysiadwyd, pobl ag arbenigedd mewn gofal plant neu feddygaeth, neu sydd â chefndir ym myd addysg. Mae swyddogaeth y panel yn cynnwys argymell a ddylid cymeradwyo ymgeiswyr i fabwysiadu, er nad y nhw sy’n gwneud y penderfyniad terfynol. Mae eu hargymhelliad yn cael ei anfon at benderfynwr yr asiantaeth, uwch-swyddog yn yr awdurdod lleol, sydd â’r gair olaf.
Byddwch yn cael eich gwahodd i ran o’r cyfarfod, er mwyn trafod yr adroddiad ac egluro eich rhesymau dros fod eisiau mabwysiadu.
-
-
-
Paru
Ar ôl i chi gael eich cymeradwyo, bydd y broses o baru yn cychwyn, h.y. ceisio canfod plentyn y gallwch chi ddiwallu ei anghenion. Efallai fod plentyn eisoes yn hysbys i’r asiantaeth a gallwn ni ystyried gwneud cysylltiad yn syth. Fel arall, caiff mabwysiadwyr cymeradwy eu cyfeirio at Gofrestr Mabwysiadu Cymru, sy’n cysylltu plant o bob cwr o Gymru.
Ar ôl i gysylltiad gael ei ganfod, fe gewch chi wybodaeth ysgrifenedig am y plentyn ac fe gewch chi gyfle i drafod hyn â gweithiwr cymdeithasol y plentyn, y gofalwr maeth a’r Cynghorydd Meddygol. Pan fyddwch chi wedi’n hysbysu ni eich bod chi’n dymuno symud ymlaen, caiff y paru arfaethedig ei gyflwyno i’r panel, a fydd unwaith eto yn argymell i’r asiantaeth y dylid mynd ati i leoli plentyn.
-
Gwneud cais am y gorchymyn mabwysiadu
Pan leolir plentyn gyda chi, bydd gennych gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn hwnnw. Bydd hyn yn cael ei rannu gyda’r asiantaeth a’r rhieni biolegol ond byddwch yn cael gwneud penderfyniadau o ddydd i ddydd ynglŷn â gofal y plentyn. Pan fydd yr asiantaeth a’r mabwysiadwyr, ac os yw’n briodol, y plentyn, wedi cytuno bod y lleoliad i’w weld yn mynd yn dda a bod pawb yn teimlo’n gyfforddus ynglŷn â chymryd y cam nesaf, caiff y mabwysiadwyr wneud cais i’r llys am orchymyn mabwysiadu. Mae’n rhaid i’r plentyn fod wedi bod yn byw gyda nhw am o leiaf 10 wythnos cyn y ceir gwneud cais.
Mae’r llys yn gofyn i’r asiantaeth fabwysiadu ddarparu adroddiad, sy’n amlinellu’r wybodaeth gefndir ynglŷn â’r plentyn a’r rhesymau dros roi’r plentyn i’w fabwysiadu. Bydd y llys, yn ogystal â’r swyddog Cafcass, yn ystyried yr adroddiad wrth benderfynu a ddylid caniatáu gorchymyn mabwysiadu ai peidio. Mae’n bosibl y bydd y gwrandawiad ei hun yn fyr ac fe roddir y penderfyniad yn ystod y gwrandawiad.
-
-
Diddordeb mewn mabwysiadu? Fe hoffem glywed gennych chi.