Mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith enfawr ar ein bywydau ni i gyd eleni, o wyliau wedi’u canslo i siopa gyda mwgwd i brinder papur tŷ bach. Dychmygwch geisio cael cymeradwyaeth i fod yn rhieni mabwysiadol am y tro cyntaf ar yr un pryd?
Dechrau newydd a heriau annisgwyl
Dechreuodd ein taith ar Nos Galan, ac yn ysbryd y “flwyddyn newydd, dechrau newydd”, gwnaethom benderfyniad a fyddai’n newid ein bywydau – ond roedd hefyd yn nodi diwedd pum mlynedd o geisio ehangu ein teulu y tu hwnt i ŵr, gwraig a dwy gath wirion. Ar ôl colli baban yn 2019, roeddem wedi ystyried mabwysiadu fel llwybr yr oeddem am ei ddilyn ers amser maith felly ar ddechrau 2020, cysylltom â Gwasanaeth Mabwysiadu Bae’r Gorllewin.
Yna daeth pandemig a effeithiodd ar y byd cyfan, ac roeddem yn ofni’r gwaethaf. Wrth i hediadau gael eu gohirio ac wrth i ni ganmol arwyr ein GIG, roeddem yn brysur yn dechrau’r broses Gymeradwyo. Roedd hynny naw mis yn ôl, a dydyn ni dal heb gwrdd â’n Gweithiwr Cymdeithasol wyneb yn wyneb eto!
Ond er gwaethaf ein hofnau y byddai’r pandemig yn effeithio ar y broses, roeddem yn falch o’r ffordd yr oedd y gwasanaeth mabwysiadu wedi addasu i’r cyfnod heriol hwn. Er yr effeithiwyd ar lawer o wasanaethau gofal cymdeithasol, roeddem yn gallu parhau â chyfarfodydd drwy fideogynadledda. Gwnaethom dreulio oriau’n dogfennu tystiolaeth wrth fynd i weminarau a hyfforddiant ar-lein. Doedd hynny ddim yr un peth â chwrdd â phobl yn bersonol ond roeddem yn gallu symud ymlaen.
Gwersi a ddysgwyd
Dysgom gymaint am y broses fabwysiadu yn ystod y cyfnod heriol hwn. Roedd gennym lyfrgell fach o werslyfrau ar y pwnc a gwnaethom ymuno â grŵp cefnogaeth rhanbarthol gyda darpar fabwysiadwyr eraill, yr oedd llawer ohonynt yn mynd drwy’r un teithiau â ni. Gwnaethom hyd yn oed dechrau defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn fwy a gwnaethom greu ein cyfrifon ‘taith fabwysiadu’ ein hunain ar Twitter ac Instagram o dan y label #AdoptionAtNo33.
Roeddem yn poeni pan ddaeth yr amser am asesiad meddygol gan fod meddygon (yn ddealladwy) yn
blaenoriaethu ymatebion i COVID-19. Yn ffodus, roedd ein meddyg teulu lleol yn digwydd bod yn
rhiant mabwysiadol ei hun a llwyddodd i drefnu ein hasesiadau meddygol dan ganllawiau cadw
pellter cymdeithasol llym. Er bod darpar fabwysiadwyr eraill yn teimlo’n rhwystredig am fisoedd,
cyrhaeddom y Panel Cymeradwyo erbyn mis Awst.
Panel Mabwysiadu
Pan gyrhaeddodd bore cyfarfod y panel, roeddem yn nerfus gan fod misoedd o waith caled wedi
arwain at un cyfarfod gyda grŵp o ddieithriaid a oedd yn dal ein gobeithion a'n breuddwydion yn eu
dwylo. Yn ffodus, aeth y panel yn wych. Gofynnwyd un cwestiwn i ni mewn perthynas â’n
Hadroddiad Darpar Fabwysiadwyr a daeth yr alwad – a oedd ond wedi para deng munud – i ben
gydag “le” hapus iawn. Gwnaed yr argymhelliad i’n cymeradwyo i fod yn rhieni mabwysiadol i hyd at ddau o blant, hyd at 3 oed.
Roedd yn bopeth yr oeddem wedi gweithio tuag ato, diolch i’n Gweithiwr Cymdeithasol anhygoel.
Taith barhaus
Dim ond cam cyntaf ein taith i ddod yn rhieni mabwysiadol oedd hwn ac roedd wedi ein goleuo’n
fawr ynghylch y broses. Ar gyfer Wythnos Fabwysiadu eleni, gymeron ni ran yn Nigwyddiad Proffil
ar-lein cyntaf Gwasanaeth Mabwysiadu Bae’r Gorllewin. Roedd hwn yn gyfle i ddarganfod rhagor am
rai o’r plant sy’n chwilio am leoliad mabwysiadu, ac roedd yn cynnwys fideos o’r plant a chyfle i
glywed manylion gan Weithwyr Cymdeithasol a Gofalwyr Maeth. Roedd yn ddefnyddiol iawn cael
ymdeimlad o bersonoliaethau’r plant, sy’n ystyriaeth mor bwysig pan rydych chi’n edrych ar rywun a
allai fod yn rhan o’ch teulu am weddill ei oes.
Mae’r broses hon wedi bod yn brofiad gwych i ni ac rydym mor hapus ein bod wedi gwneud y
penderfyniad ar Nos Galan oer i ddilyn y llwybr hwn. Er bod cymaint eisoes wedi digwydd – hyd yn
oed yn erbyn ansicrwydd pandemig byd-eang – nid yw ein taith wedi dod i ben.
Ydych chi wedi eich ysbrydoli gan y blog hwn a’r cynnwys sy’n trafod Wythnos Fabwysiadu
Genedlaethol? Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am y broses fabwysiadu.