• Rhestr Ddarllen Awgrymedig

  • Therapeutic Parenting in a Nutshell: Positive and Pitfalls
    Sarah Naish

    Ar gyfer pob gofalwr, rhiant a gweithiwr proffesiynol cefnogol sy’n gweithio gyda phlant sydd wedi dioddef trawma yn gynnar mewn bywyd. Mae Sarah Naish yn defnyddio’i phrofiad ymarferol i esbonio’n glir y gwahaniaethau rhwng rhianta ‘safonol’ a rhianta ‘therapiwtig’, gydag astudiaethau achos ac enghreifftiau o strategaethau rhianta therapiwtig, ynghyd â chymwysiadau ymarferol. Mae’r llyfr cyflwyniadol byr hwn yn darparu atebion ar gyfer pawb sy’n gofalu am blant ag anawsterau ymlyniad, gan esbonio pam y mae angen i ni fagu’n plant yn wahanol, yr heriau ychwanegol cyffredinol a wynebir gan Rieni Therapiwtig, a’r ffordd orau o’u datrys. Rhagor o wybodaeth: www.coect.co.uk.

  •  

  • The A-Z of Therapeutic Parenting: Strategies and Solutions
    Sarah Naish

    Mae The A-Z of Therapeutic Parenting yn cynnwys proses hawdd ei dilyn y gall rhieni neu’r rheini sy’n rhoi gofal ei defnyddio wrth ymateb i faterion gyda’u plant. Mae’n cynnwys 60 o broblemau cyffredin y mae rhieni’n eu hwynebu, o ymddwyn yn ymosodol i anawsterau gyda chysgu, gyda chyngor ar yr hyn a all sbarduno’r materion hyn a sut i ymateb iddynt. Yn hawdd ei ddefnyddio ac wedi’i ysgrifennu mewn arddull syml, dylai fod gan bob rhiant therapiwtig gopi o’r llyfr hwn.

  •  

  • Parenting with Theraplay: Understanding Attachment and How to Nurture a Closer Relationship with Your Child
    Helen Roswell and Vivian Norris

    Llyfr amhrisiadwy i rieni sy’n mabwysiadu! Drwy ddarparu trosolwg o Therachwarae a’r egwyddorion seicolegol y mae’n seiliedig arnynt, bydd rhieni a gofalwyr yn cael dealltwriaeth o theori sylfaenol y model, ynghyd â syniadau ymarferol ar gyfer rhoi Therachwarae ar waith mewn bywyd teuluol bob dydd. Drwy astudiaethau achos bob dydd ac iaith hawdd, bydd rhieni’n magu hyder ac yn dysgu sgiliau newydd ar gyfer meithrin perthynas emosiynol, empathi, a derbyn yn y berthynas gyda’u plentyn.

  •  

  • Adnoddau ar y We

  • The Centre of Excellence in Child Trauma

    Mae’r Ganolfan Ragoriaeth Trawma Plant yn sefydliad ymbarél sy’n cyfuno adnoddau, ymchwil a gwybodaeth gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn y sector.

  • National Association of Therapeutic Parenting

    Nod y Gymdeithas Genedlaethol Rhianta Therapiwtig yw darparu cefnogaeth, addysg ac amrywiaeth o adnoddau i rieni sy’n rhianta mewn modd therapiwtig. Mae aelodaeth yn dechrau o £4.99 y mis.

  • Inspire Training Group

    Mae Inspire Training Group yn arbenigo yn y maes Rhianta mewn modd Therapiwtig a Thrawma. Fe’i sefydlwyd yn 2007 ac mae’n defnyddio arbenigedd nifer o weithwyr proffesiynol, gan gynnwys arbenigwyr ymlyniad o fewn y gymuned therapiwtig, mabwysiadwyr a gofalwyr maeth. Mae nifer o gyrsiau ar-lein ar gael – mae’r rhan fwyaf ohonynt yn costio £5.

  • Podcasts

  • Truth Be Told: Y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol

    Un o’r ffyrdd gorau o gael gwybod mwy am fabwysiadu yw drwy glywed gan bobl sydd wedi cael profiad ohono. Podlediad mewnweledol a thwymgalon.

  • TThe Adoption and Fostering Podcast - Al Coates a Scott Casson-Renne

    Mae Al yn rhiant mabwysiadol ac yn weithiwr cymdeithasol, ac mae Scott yn rhiant mabwysiadol ac yn Bennaeth Ymgysylltu ar gyfer Adoption UK. Mae bron 200 o bodlediadau ar gael i wrando arnynt sy’n trafod amrywiaeth eang o faterion sy’n ymwneud â mabwysiadu. Mae’r sgyrsiau gyda phlant mabwysiedig o ddiddordeb penodol.

  • BBC Radio 4 - The Adoption

    Y podlediad arobryn. Mae teulu’n cael ei chwalu; oes modd creu un newydd? Mabwysiadu yn y DU, drwy lygaid y rheini yr effeithiwyd arnynt. Cymerodd 19 mis i’w sefydlu, ac rydym yn ei argymell yn fawr.

  • Ffilmiau a Rhaglenni Dogfen

  • Lion
    2016

    Mae bachgen bach 5 oed o India yn cael ei fabwysiadu gan gwpwl o Awstralia ar ôl iddo fynd ar goll gannoedd o gilometrau oddi cartref. 25 mlynedd yn ddiweddarach ac mae’n mynd ar daith i ddod o hyd i’w deulu coll. Ffilm hollol hyfryd.

  • Secrets and Lies
    1996

    Yn dilyn marwolaeth ei rhieni mabwysiadol, mae optometrydd du ifanc llwyddiannus yn cysylltu â’i mam biolegol – gweithiwr ffatri gwyn, unig sy’n myw mewn tlodi yn nwyrain Llundain. Ffilm ddwys.

  • Instant Family
    Netflix

    Yn seiliedig ar stori wir, mae’r ffilm hon yn dangos cwpwl sy’n maethu grŵp o 3 o blant sy’n siblingiaid. Mae’n ffilm Americanaidd ac felly mae agweddau gwahanol iawn ar fabwysiadu, fodd bynnag mae’n ffilm ddoniol, ddifyr a thwymgalon iawn – cofiwch eich hancesi papur!

  • Awgrymiadau YouTube

  • Cyfryngau Cymdeithasol

  • Mae cymuned fabwysiadu wedi ymddangos ar Instagram, Facebook a Twitter.

    Dyma rai o’r tudalennau y gallwn eu hawgrymu: ‘Notafictionalmum’; ‘mollymamaadopt’; ‘adoptionUK’; ‘you.can.adopt’ ‘2dadsandalittlelad’, ‘Daddy, Dad & Me’, i enwi ychydig yn unig. Os ydych chi’n dod ar draws unrhyw rai rydych chi’n eu hoffi, rhowch wybod i ni! Rydym yn cael llawer o wybodaeth gan ein mabwysiadwyr ein hunain hefyd. Mae gan Facebook grwpiau rhianta therapiwtig a grwpiau i ddarpar fabwysiadwyr.

     

    Ac wrth gwrs, gallwch ddilyn Bae’r Gorllewin ar Facebook, Instagram a Twitter!