Mae ymchwil yn profi bod dangos caredigrwydd i eraill yn ein helpu i deimlo hapusrwydd gwirioneddol mewn sawl ffordd. Trwy ddangos caredigrwydd i eraill wrth fod yn hael a chydweithredu, mae’n ysgogi rhan o’r ymennydd sy’n ymateb i bethau rydym yn eu hystyried yn foddhaus megis bwydydd blasus a chyffuriau caethiwus. Mae’r emosiwn o deimlo’n dda, a ddaw o fod yn garedig i eraill, wedi cael ei alw’n deimlad “cynnes”, sef ymateb biolegol i’r teimlad hwnnw.

Ond pam a sut mae caredigrwydd yn gwneud i ni deimlo’n hapus? Dyma bum rheswm pam mae bod yn garedig i eraill yn gwneud i ni deimlo’n dda:

  1. Gwenu

Mae bod yn garedig yn debygol o wneud i rywun wenu. Os gwelwch y wên honno drosoch chi eich hun, gallai fod yn heintus.Mae gweld rhywun yn dangos emosiwn yn ysgogi’r un rhannau o’r ymennydd â phe byddem wedi profi’r emosiwn hwnnw drosom ein hunain.

  1. Gweithred o garedigrwydd

Gall gweithred o garedigrwydd ar hap hefyd wneud i ni deimlo’n dda. Mae helpu rhywun sy’n drist i deimlo’n well yn gwneud i ni deimlo’n dda. Mae’r effaith hon yn arbennig o bwerus i bobl rydyn ni’n agos atynt, mae hefyd yn berthnasol i broblemau dyngarol. Mae ymgysylltu ag elusennau yn cael effaith gadarnhaol i fynd i’r afael â phroblemau ac o ganlyniad, yn gwella ein hwyliau.

  1. Gwnewch gysylltiadau

Mae bod yn garedig yn agor posibiliadau o ddatblygu cysylltiad cymdeithasol â rhywun, mae’n cryfhau cyfeillgarwch ac o ganlyniad, yn gwella hwyliau.

  1. Hunaniaeth garedig

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn hoffi meddwl eu bod yn garedig – mae gweithredoedd o garedigrwydd yn ailddatgan hunaniaeth gadarnhaol ac yn gwneud i ni deimlo’n falch. Mae bod yn garedig yn gwneud i chi deimlo’n well fel person, yn fwy cyflawn ac yn hapus.

  1. Mae’r rhod yn troi

Mae rhywun rydych chi wedi’i helpu yn y gorffennol yn fwy tebygol o gofio a thalu’r gymwynas yn ei hôl. Mae gweld rhywun yn dangos caredigrwydd yn annog eraill i fod yn fwy caredig eu hunain ac mae’n codi ysbryd pawb.

Ffaith wyddonol – mae bod yn garedig yn rhoi hwb i’ch hwyliau ac mae bod mewn hwyliau da yn eich gwneud chi’n fwy caredig. Mae hyn yn creu perthynas ddwyffordd wych sydd â chymaint i’w gynnig.

 

“When you are kind to others, it not only changes you, it changes the world” Harold Kushner

Mae Pob Plentyn yn Arlunydd – Cystadleuaeth Celf Bae’r Gorllewin i BlantDyddiaduron Cyfyngiadau Symud Bae’r Gorllewin