Pwerau arbennig rhieni

“Fydden ni ddim yn dweud ein bod ni’n arbenigwyr” meddai Glenda wrth iddi ymateb i’m sylw agoriadol am yr argraff yr oedd ei gwybodaeth am fagu plant wedi’i gwneud ar y mabwysiadwyr newydd Ricky a Jade.

Mae tân glo’n llosgi yng nghefn yr ystafell fyw o’r tu ôl i’r sgrîn amddiffynnol fawr – gan amlygu cynhesrwydd naturiol y tŷ a’i breswylwyr.

“Mae pob plentyn yn wahanol” medd wedyn ac yna mae’n gofyn i Pete “Dwi’n credu’n bod ni wedi maethu 25 o blant erbyn hyn?”

“O gwmpas hynny, ydyn” yw ei ateb hamddenol.

Dwi’n edrych i fyny ar y waliau lle ceir lluniau, wedi’u goleuo â golau’r tân, o’r plant niferus y maen nhw wedi gofalu amdanyn nhw’n  gariadus. Af ymlaen i’w holi, gan edmygu eu gallu magu plant.

Dwi am wybod rhagor amdanyn nhw fel pobl, pam y dechreuon nhw faethu, beth wnaeth eu hysgogi, a’u nodweddion.

“Wel, dechreuon ni gyda phlant hŷn gan fod y ddau ohonon ni eisiau parhau i weithio” esboniodd Glenda.

“Ond yn y pendraw, dechreuon ni dderbyn plant iau”

“Roedd yn caniatáu i ni dderbyn rhagor o blant” ychwanegodd Pete “ac yn y diwedd roedd y ddau ohonon ni wedi rhoi’r gorau i weithio”

“Roeddwn i bob amser am gael rhagor o blant” medd Glenda i gloi.

Mae’r cwpwl ar hyn o bryd yn maethu bachgen bach 6 wythnos oed, sy’n eistedd yn fodlon ar arffed Glenda wrth iddyn nhw adrodd yr hanes wrtha’ i.  Gyda’r tân yn y cefndir, mae’n olygfa dwymgalon. Ac mae’n rhaid i mi gyfaddef mod i ddim am i’r cyfarfod hwn ddod i ben.

Mwy na swydd yn unig

“Nid swydd yw hon i ni, mae’n llawer mwy na hynny. ‘Dyn ni wedi bod yno ar gyfer y seremonïau newid enw er enghraifft” ychwanega Glenda.

“Rwy’n cofio un adeg pan dynnais i lun o gwpl ifanc oedd yn mynd â’u plentyn am ei dro cyntaf yn y parc yn ystod y cyflwyniadau” ychwanega Paul

“Wnes i anfon y llun atyn nhw y noson ganlynol, ac roedden nhw wrth eu bodd ag e’.”

Nid gofal yn unig y mae Plentyn sy’n Derbyn Gofal yn ei gael, ond cariad hefyd” medd Glenda.

“A dyna beth ‘dyn ni’n ei wneud”.

Rwy’n dechrau siarad am rywfaint o’r emosiynau cymysg yr oedd Ricky a Jade yn eu teimlo yn ystod cyflwyniadau.

“Mae e’r un peth i ni” yw ymateb Glenda “ein plentyn ni yw e’ nes iddyn nhw ddod o hyd i deulu iddo”

“Yr unig ffordd y gallwn adael iddyn nhw fynd yw trwy wybod eu bod yn mynd i deulu cariadus” dywed Pete i orffen.

Rhan o’r daith

“Mae’n drueni na wnaethon ni hyn flynyddoedd yn ôl, mae’n fraint bod yn rhan o daith y plentyn hwn” medd Glenda.

“Mae angen pobl go arbennig i fabwysiadu” ychwanega Glenda “‘gan eich bod yn destun cynifer o archwiliadau. Mae unrhyw beth y gallwn ni ei wneud i helpu’r bobl yma a sicrhau bod y broses drosglwyddo’n hwylus yn bwysig iawn.”

Fel y crybwyllwyd yn ein blog #GofalwyrMaethGwych cyntaf, mae Glenda a Pete wir yn ddarn amhrisiadwy o’r pos hwn.

Y cymorth maen nhw’n ei ddarparu – y gofal, yr angerdd, y ffiniau a’r arferion dyddiol a osodir, y sefydlogrwydd a’r cynefindra a grëir.

Cusanau amser gwely a chogleisiau ben bore. Caneuon, hwiangerddi a hwyl wrth chware

 

Amser.

Cariad.

Goresgyn heriau

“Ond mae heriau i’w hwynebu” medd Glenda “‘dyn ni wedi gofalu am rai plant mwy problemus”

“Ond dyna beth ‘dyn ni’n ei wneud, rydyn ni’n helpu i’w trawsnewid a’u cael yn barod i’w mabwysiadu” ychwanega Pete.

“Fel ‘wedais i, nid swydd yw hon i ni, maen nhw’n rhoi rheswm i ni godi yn y bore” medd Glenda.

“Down mor hoff o’r plentyn ein bod yn galaru rhywfaint pan fydd yn ein gadael”

“Ond rydyn ni’n dal i fod yn rhan o’r broses wedi hynny, a bob amser ar ddiwedd y ffôn i’r mabwysiadwyr, ac yn helpu gyda’r pethau bach sy’n cael eu hanghofio ond sy’n bwysig.”

“Ac yna mae gweld y plentyn hwnnw’n datblygu ac yn tyfu gyda’r teulu yn gwneud y cyfan yn werth chweil, ac mae gwybod ein bod wedi chwarae ein rhan ar y daith honno yn gwneud i ni deimlo’n dda” medd Pete i gloi.

——————————————————————————————————-

*Newidiwyd enwau i ddiogelu hunaniaeth

Rhan o’n dathliad #GofalwyrMaethGwych

I gael rhagor o wybodaeth am faethu, cliciwch ar ein gwasanaeth lleol isod.

I gael gwybodaeth am fabwysiadu, cliciwch yma.

——————————————————————————————————-

Childrens art cymraeg