Ers dechrau Gwasanaeth Mabwysiadu Bae’r Gorllewin yn 2015 maent wedi helpu bron 500 o blant i ddod o hyd i’w teuluoedd am oes. Yn ystod yr amser hwn, mae 267 o fabwysiadwyr wedi’u cymeradwyo hefyd gan Fae’r Gorllewin. Fodd bynnag, yn genedlaethol, mae diffyg mabwysiadwyr, yn enwedig y rheini sy’n fodlon bod yn gyfrifol am blant ag anghenion mwy cymhleth.

Er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r angen am fabwysiadwyr, lansiwyd ymgyrch genedlaethol, proffil uchel gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn ddiweddar, sef Darganfydda’r rhiant ynot ti, sy’n cynnwys yr hysbyseb cyntaf am fabwysiadu yng Nghymru ar y teledu yn ystod yr oriau brig.

Fel rhan o’r ymgyrch, mae pobl go iawn sydd wedi bod trwy’r broses fabwysiadu yn rhannu eu profiadau.

Chris, a fabwysiadodd ei ferch trwy Wasanaeth Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru gyda’i wraig yn 2015, yw un o’r mabwysiadwyr sy’n cefnogi’r ymgyrch. Roedd y cwpl wedi bod yn ceisio am blentyn ond nid oeddent yn llwyddiannus, a chymerodd nifer o flynyddoedd iddynt benderfynu mabwysiadu.

Meddai Chris, “Pan ddechreuom feddwl am fabwysiadu, roeddem o’r farn bod angen nodweddion arbennig er mwyn rhoi’r hyn y mae ei angen ar blentyn iddynt, fel ei fod yn addasu i deulu newydd ac na fyddai modd gweithio swydd amser llawn. Ar ôl gwneud gwaith ymchwil, siarad â phobl eraill ac yna mynd ar gyrsiau, sylweddolom fod gennym y nodweddion arbennig hyn eisoes.

“Meddyliais a fyddai’r berthynas yr un peth â fy merch pe baem wedi bod yn rhieni geni iddi. Ond yr eiliad y gwelsom lun ohoni a chawsom ragor o wybodaeth amdani, roeddem yn gwybod y byddai’n teimlo’n gartrefol yn ein teulu a datblygwyd perthynas yn gyflym.

“Mabwysiadom ein merch pan oedd hi ychydig yn hŷn, felly roedd ganddi rywfaint o gof o’i phlentyndod. Cawsom ddyddiau da a dyddiau gwael, ond roedd cefnogaeth ar gael i ni bob cam o’r ffordd i’n helpu i ymdopi â’i hemosiynau.

“Nid yw plant eisiau pethau materol; maent eisiau cael eu caru a’u meithrin. Mae mabwysiadu wedi bod yn brofiad hynod werthfawr i mi a hoffwn annog pobl eraill i gael rhagor o wybodaeth cyn dweud ‘nad yw’n addas i mi’.”

Meddai Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwr Gweithrediadau y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, “Mae ychydig o gamsyniadau ynghylch pwy sy’n gallu mabwysiadu ond nid oes ymagwedd lle tybir bod un ateb yn addas i bawb. Mae popeth yn dibynnu ar yr unigolyn. Y pethau pwysicaf y gallant eu cynnig i blentyn yw amser, amynedd, sicrwydd a chariad.

#GalliDiFabwysiadu

Bae’r Gorllewin ar y tonnau awyr“Mae eich bywyd yn newid….roedden ni am i hynny ddigwydd” – Jess