Ochr yn ochr â chydnabod bod y sefyllfa’n gwella mewn sawl ffordd mae tystiolaeth o hyd bod
cyfleoedd a gollwyd i roi cefnogaeth amserol a digonol i rai o blant mwyaf diamddiffyn y DU yn
effeithio ar eu bywydau, yn ôl adroddiad newydd heddiw.

 

The Adoption Barometer, a gyhoeddwyd gan elusen Adoption UK, yn disgrifio’r effaith
ddramatig y gall y gefnogaeth gywir ei chael. Bellach yn ei ail flwyddyn, mae’r Baromedr yn seiliedig
ar yr arolwg mwyaf erioed o fabwysiadwyr. Eleni, ymatebodd 5,000 o bobl i’r arolwg, gyda 361
ohonynt yng Nghymru.

Mae’r Baromedr Mabwysiadu hefyd yn asesu polisïau’r llywodraeth sy’n rheoleiddio mabwysiadu.
Polisïau Cymru sgoriodd orau, gyda thri maes o’r polisi yn sgorio’n ‘dda’– Cymeradwyaethau a
Pharu, Mabwysiadwyr Newydd a Theuluoedd Sefydledig. Polisi sy’n ymwneud â dod o hyd i
deuluoedd i blant sgoriodd orau yn gyffredinol.

Fodd bynnag, sgoriodd pob gwlad yn wael mewn o leiaf un maes polisi. Polisi sy’n ymwneud ag
Anhwylder Sbectrwm Alcohol y Ffetws (FASD) sgoriodd waethaf, gyda phob gwlad yn cael ei
hasesu’n ‘wael’, ac roedd profiadau mabwysiadwyr o blant ag FASD neu yr amheuir bod ganddynt
FASD hefyd yn ‘wael’ ym mhob gwlad.

Bu cynnydd yng Nghymru ers Baromedr y llynedd, gan adeiladu ar y gwelliant a welwyd ers i Gymru
roi ei Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol (GMC) ar waith. Ym mis Mehefin 2019, cafwyd buddsoddiad o £2.3 miliwn mewn gwasanaethau mabwysiadu gan Lywodraeth Cymru. Mewn partneriaeth â sefydliadau’r trydydd sector mae rhywfaint o’r arian hwn yn cael ei ddefnyddio i ddarparu gwasanaethau newydd gan gynnwys y Gwasanaethau Addysg a Chymorth Therapiwtig mewn Mabwysiadu (TESSA) a gwasanaeth pobl ifanc newydd. Roedd ymatebwyr yng Nghymru gryn dipyn yn fwy cadarnhaol am eu profiadau o gael cymorth yn ystod 2019 nag yr oeddent y flwyddyn flaenorol.

.

 

Un o’r prif themâu sy’n dod i’r amlwg ledled y DU yw’r methiant i ddiagnosio a thrin niwed i’r ymennydd a achosir gan blant sydd wedi bod mewn cysylltiad ag alcohol yn y groth. Mae’r adroddiad yn datgelu bod mwy nag un o bob pedwar o blant sydd wedi’u mabwysiadu yng Nghymru (28%) naill ai’n derbyn diagnosis o FASD neu yr amheuir bod ganddynt FASD. Roedd 53% o’r teuluoedd a holwyd yng Nghymru wedi aros dwy flynedd neu fwy am ddiagnosis, ac roedd 68% yn teimlo nad oedd gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol wybodaeth sylfaenol am y cyflwr hyd yn oed, er bod FASD yn fwy cyffredin yn y boblogaeth gyffredinol nag awtistiaeth.

Dywedodd y fam fabwysiedig, Joanne, o Dde Cymru: “Dywedwyd wrthym efallai bod gan ein mab FASD pan ddaeth atom yn bedwar oed, ond dywedwyd wrthym na fyddem byth yn derbyn diagnosis gan nad oedd ganddo’r nodweddion wyneb cysylltiedig. Cyn bo hir, daeth yn dreisgar ac yn ymosodol. Byddai’n ffrwydro am ddwy awr bob nos pan fyddwn yn ei roi yn y gwely. Byddai’n taflu pethau, yn bwrw, yn cicio ac yn crafu. Dwi wedi cael tri llygad du ac mae gen i graith ar fy ngên o ganlyniad i gael fy nharo gyda channwyll. Gwelsom feddygon teulu, Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS), tîm niwro-ddatblygiadol a seiciatrydd plant cyn i feddyg roi diagnosis o FASD i’n mab o’r diwedd. Cawsom ein rhyddhau’r un diwrnod heb dderbyn cynnig ar gyfer unrhyw gefnogaeth”

Mae tua thri chwarter o’r plant a fabwysiadwyd wedi dioddef trais, camdriniaeth neu esgeulustod wrth fyw gyda’u teuluoedd biolegol, yn aml gydag effeithiau gydol oes ar eu perthnasoedd, eu hiechyd a’u gallu i ddysgu. Er gwaethaf yr heriau sylweddol, mae’r adroddiad yn dangos bod mabwysiadwyr yng Nghymru yn parhau i fod yn gadarnhaol ac yn wydn – byddai 75% yn annog eraill i ystyried mabwysiadu

Mae tua thri chwarter o’r plant a fabwysiadwyd wedi dioddef trais, camdriniaeth neu esgeulustod wrth fyw gyda’u teuluoedd biolegol, yn aml gydag effeithiau gydol oes ar eu perthnasoedd, eu hiechyd a’u gallu i ddysgu. Er gwaethaf yr heriau sylweddol, mae’r adroddiad yn dangos bod mabwysiadwyr yng Nghymru yn parhau i fod yn gadarnhaol ac yn wydn – byddai 75% yn annog eraill i ystyried mabwysiadu.

Ond mae methiannau mewn polisi ac ymarfer a cholli cyfleoedd i ymyrryd yn golygu bod problemau’n aml yn arwain at argyfwng. Mae bron hanner (48%) y teuluoedd â phlant hŷn yn adrodd am heriau difrifol, megis cael eu denu i ymddygiad sy’n camfanteisio’n droseddol, gan gynnwys camfanteisio’n rhywiol ar blant a gweithgareddau llinellau sirol. Mae’r mwyafrif llethol (66%) o ymatebwyr o Gymru sydd â phlant oedran ysgol yn rhagweld y byddant yn gadael yr ysgol gydag ychydig neu ddim cymwysterau am nad oedd ganddynt y gefnogaeth iawn.

Meddai awdur yr adroddiad, Becky Brooks: “Mae’n hanfodol, yn foesol ac yn economaidd, fod teuluoedd sy’n mabwysiadu yn cael y gefnogaeth gywir o’r diwrnod cyntaf. Ac eto, nid oedd gan 68% o deuluoedd mabwysiadol newydd a ymatebodd i’r arolwg unrhyw gynllun cefnogi ar waith. Mae’r gost i’r plentyn, y teulu ehangach a chymdeithas pan fydd teulu mabwysiadol yn syrthio’n ddarnau,
yn annerbyniol”

 

 

Meddai Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru: “Mae’r Baromedr yn wiriad i’w groesawu gan deuluoedd sy’n mabwysiadu o ran ble rydym fel gwasanaeth. Mae’r canfyddiadau’n nodi’n galonogol bod gwelliannau wedi’u gwneud. Maent hefyd yn dangos y meysydd lle rydym yn gwybod bod rhagor o waith i’w wneud, yn benodol mynediad at gefnogaeth ar gyfer mabwysiadu a gwasanaethau i blant a phobl ifanc sydd wedi’u mabwysiadu.

“Rydym wedi buddsoddi’n sylweddol yn y meysydd hyn dros y flwyddyn ddiwethaf gyda chymorth y
gronfa gymorth ar gyfer mabwysiadu gwerth £2.3m gan Lywodraeth Cymru, ac edrychwn ymlaen at
adroddiadau’r dyfodol i weld yr effaith y mae hyn yn ei chael.

“Yn gyffredinol, mae rhai negeseuon cadarnhaol iawn i’w dathlu yn yr adroddiad ac rydym yn falch o
weld bod mabwysiadu yng Nghymru mewn sefyllfa dda o ran ei daith wella. Dyma’r union beth roeddem am ei gyflawni wrth sefydlu’r GMC”

Mae’r Baromedr Mabwysiadu yn galw ar lywodraethau pob un o bedair gwlad y DU i ddarparu
asesiadau therapiwtig manwl ar gyfer pob plentyn cyn iddo gyrraedd ei deulu newydd, gyda chynlluniau cefnogaeth cyfredol i’w cynnal nes eu bod yn oedolion ifanc.

.

View the full report here

https://youtu.be/gyhqAQ-1lt4

National Adoption WeekWBAS yn ymuno â Chlwb Rygbi Cigfrain Pen-y-bont ar Ogwr a Chlwb Pêl-droed Pen-y-bont!