Adeiledir Bae’r Gorllewin yn gyfan gwbl ar ei staff, ei blant ac wrth gwrs ei fabwysiadwyr. Chi yw’r bobl rydym yn eich cynrychioli a’ch cefnogi. Rydym mor falch ohonoch chi, yr hyn rydych yn ei wneud a’r bobl ydych chi erbyn hyn.  Rydym hefyd yn falch ein bod ni wedi chwarae ein rhan yn y broses.

Rydym wedi treulio’r ychydig wythnosau diwethaf yn cael cyfres o sgyrsiau personol ac agos â’n mabwysiadwyr, gan fanylu ar y broses fabwysiadu gyfan, o gymryd y camau cyntaf i’r cyfnod ar ôl iddynt groesawu’r plentyn.  Ni allwn ddiolch digon i’n mabwysiadwyr anhygoel am roi cyfrifon mor onest ac agored o fabwysiadu.

Ni waeth pa gam o’r broses gwneud penderfyniadau rydych chi wedi’i gyrraedd – rydym yn gobeithio y bydd y fideos hyn a phodlediad y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn helpu i egluro unrhyw amheuon sydd gennych ar hyn o bryd, wrth lenwi unrhyw fylchau yn eich gwybodaeth am fabwysiadu.  Byddwn yn rhyddhau fideo newydd bob wythnos yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig – cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol i weld y bennod ddiweddaraf!

 

Pennod 6 – Post placement and beyond (ar gael 18/12/20)

Dyma’r fideo olaf yn y gyfres.  Gallwch ddisgwyl dagrau wrth i’n mabwysiadwyr siarad am y diwrnodau cyntaf o  fabwysiadu a thu hwnt!

 

Pennod 5 – Introductions and meeting your child (ar gael 18/12/20)

Ym mhennod 4 gwelsom ein mabwysiadwyr yn cael eu paru gyda’u plentyn – yma rydym yn symud ymlaen i’r cyflwyniadau cyffrous a’r cyfarfodydd cyntaf. Gallwch ddysgu am fanteision proses bontio llyfn o leoliad y gofalwyr maeth a phwysigrwydd sefydlu perthynas agos o’r dechrau.  Cyffrous!

 

Pennod 4 – Waiting for a match (ar gael 27/11/20)

Dyma’r bedwerydd fideo yn y gyfres a dyma’r eiliad y mae’r mabwysiadwyr wedi bod yn aros ar ei chyfer – cael eu paru gyda’u plentyn o’r diwedd!

Pennod 2 – The assessment process (ar gael 10/11/20)

Dyma’n ail fideo yn y gyfres, ac mae’n trafod y broses asesu – mae’n sôn am bynciau megis y cyfarfod cyntaf nerfus gyda’ch gweithiwr cymdeithasol, y cyflwyniad i hyfforddiant mabwysiadu 4 diwrnod a’r ymchwil/hyfforddiant yn y cartref y mae pob mabwysiadwr yn eu cwblhau.

 

Pennod 2 – The assessment process (ar gael 10/11/20)

Dyma’n ail fideo yn y gyfres, ac mae’n trafod y broses asesu – mae’n sôn am bynciau megis y cyfarfod cyntaf nerfus gyda’ch gweithiwr cymdeithasol, y cyflwyniad i hyfforddiant mabwysiadu 4 diwrnod a’r ymchwil/hyfforddiant yn y cartref y mae pob mabwysiadwr yn eu cwblhau.

 

Pennod 1 – Taking the first steps (ar gael 30/10/20)

Yn fideo cyntaf y gyfres, siaradodd ein mabwysiadwyr yn onest am yr amheuaeth roeddent yn ei theimlo ynghylch gwneud yr ymholiad cyntaf i fabwysiadu.  Caiff pynciau pwysig eu trafod yma, megis y camdybiaethau cyffredin sydd gan bobl am fabwysiadu, a’r rhwystrau y mae pobl yn dod ar eu traws – gan gredu na allant fabwysiadu. Hefyd maent yn trafod yr hyn a oedd yn gwneud iddynt deimlo’n nerfus am gysylltu â Bae’r Gorllewin, ac wrth gwrs – yr hyn a oedd yn eu cynhyrfu!

 

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am y broses fabwysiadu.

Cliciwch yma os oes gennych unrhyw gwestiynau am y pynciau a godwyd yn y fideos hyn, mae croeso i chi gysylltu â ni.

#EinTeulu

 

 

Dyddiaduron Cyfyngiadau Symud Bae’r GorllewinStraeon Cariad y Cyfnod Clo – Rhan Un