Rydym yng nghanol Wythnos Fabwysiadu Genedlaethol a hyd yma rydym eisoes wedi gweld rhai
pethau yn digwydd am y tro cyntaf erioed o ran mabwysiadu yng Nghymru. Lansiwyd podlediad
mabwysiadu cyntaf Cymru gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, a chafwyd digwyddiad
proffilio plant rhithwir cyntaf Bae’r Gorllewin – mae pethau’n cael eu gwneud yn wahanol ac mae sgyrsiau gwych yn cael eu cynnal.

Gweithgarwch cenedlaethol a digwyddiadau mabwysiadu newydd

Mae podlediad y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, ‘Truth Be Told’, yn cynnwys amrywiaeth o fabwysiadwyr o bob rhanbarth yng Nghymru yn siarad yn agored am eu profiadau o fabwysiadu. Mae trawstoriad o’r gwahanol fathau o bobl sy’n mabwysiadu yng Nghymru, o fabwysiadwyr hŷn, pobl sengl ac LGBTQ+. Mae cyfanswm o chwe phennod gyda’r nesaf yn cael ei ryddhau ddydd Sul 18 Hydref.

Ochr yn ochr â’r podlediad mae’r gwasanaeth cenedlaethol hefyd wedi creu cyfres o weminarau a
thrafodaethau ar-lein. Mae’r gweminarau’n canolbwyntio ar bynciau fel y profiad mabwysiadu
LGBTQ+ a rôl y Gymraeg yn y broses fabwysiadu yng Nghymru.

Mae ITV Wales, Heno ar S4C a BBC Radio Wales hefyd yn darlledu cyfweliadau a rhaglenni nodwedd
gyda mabwysiadwyr rhanbarthol o’r podlediad.

Gweithgarwch Rhanbarthol
Ochr yn ochr â’r gweithgarwch cenedlaethol mae Bae’r Gorllewin wedi derbyn adborth cychwynnol gwych o’u digwyddiad proffilio rhithwir cyntaf a gynhaliwyd ddydd Mercher 14 Hydref. Nod y digwyddiad oedd ceisio paru mwy o blant â mabwysiadwyr. Roedd y defnydd o fideos a dylunio graffeg wedi galluogi Bae’r Gorllewin i fynegi personoliaethau lliwgar y plant gwych hyn.

Mae un cwpwl, y’u cymeradwywyd i fabwysiadu gan Fae’r Gorllewin, wedi ysgrifennu’n onest am eu
profiadau o’r digwyddiad proffilio a’u taith fabwysiadu gyffredinol yn ystod y cyfyngiadau symud –
caiff hwn ei gyhoeddi fel blog ar ddiwedd yr wythnos.

Mae datblygiadau rhanbarthol eraill ar gyfer Bae’r Gorllewin yn cynnwys Gwobrau’r Fframwaith Taith Bywyd ac ymgyrch fideo mabwysiadwr newydd sy’n dod ar ddiwedd y mis.

Meddai Nicola Rogers, Rheolwr Rhanbarthol Bae’r Gorllewin, “Rydym yn hyderus y bydd yr holl
sgyrsiau a gweithgarwch hyn yn helpu ein mabwysiadwyr posib i fod yn fwy gwybodus, ein mabwysiadwyr presennol i deimlo bod ganddynt fwy o gefnogaeth ac yn bwysicaf oll, yn arwain at
fwy o blant yn cael eu paru ac yn dod o hyd i’w cartref am byth”

I gael rhagor o wybodaeth am y gweminarau neu i'w gwylio cliciwch yma

I wrando ar y podlediad cliciwch yma

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am fabwysiadu a'r gwahaniaeth y gallech ei wneud

Blwyddyn Newydd, dechrau newydd… yna taith ryfeddolBarometer Blog