Mae 2020 (a hyd yn hyn eleni hefyd) wedi bod yn heriol i ni gyd. Fel gwasanaeth rydym wedi addasu a gweithio’n galed i fynd i’r afael â’r cynnydd enfawr yn nifer y bobl sydd am fabwysiadu a dechrau teulu.

Nid yw mabwysiadu’n stori tylwyth teg Disney nac yn hawdd, wrth gwrs, rydym yn gwybod hynny. Ar adegau, mae’r pandemig wedi dwysáu’r heriau sy’n dod yn naturiol â mabwysiadu – gobeithiwn ein bod wedi gallu helpu mewn unrhyw ffordd bosib pan rydych wedi cael trafferthion.

Mae adegau da a gwael pandemig y Coronafeirws wedi ein cadw ar flaenau ein traed: rhwng yr emosiwn, y gobeithion a chwalwyd, y pryder a’r dyfalbarhau, bu rhai eiliadau hyfryd.

Eiliadau o ddarganfod, hud ac antur – eiliadau o feithrin perthynas a gwersi a ddysgwyd. Dyma Straeon Cariad y Cyfnod Clo Bae’r Gorllewin.

Dyma’n rhan gyntaf gyda’n mabwysiadwr Gavin 31 oed

“Roeddwn i am aros yn lleol, cynnal rhyw fath o gysylltiad ag ardal Bae’r Gorllewin” meddai Gavin wrth drafod pam ei fod wedi dewis Bae’r Gorllewin fel ei asiantaeth fabwysiadu.

“Dwi bob amser wedi eisiau cael plant, ond nid yw erioed wedi gweithio allan gydag unrhyw un. Rwyf bob amser wedi bod yn ymwybodol iawn bod llawer o blant mewn gofal, gyda rhai’n symud or gartref i gartref – y mae angen sefydlogrwydd arnynt.

“Mae gen i ffrindiau â phlant ac rwy’n eu caru fel petawn nhw’n blant i fi, felly roeddwn i’n gwybod nad oes angen i chi berthyn trwy waed i garu’n iawn”

Felly roedd bwriadau Gavin yn eithaf penodol a chlir o’r dechrau, ond sut roedd y broses fabwysiadu mewn gwirionedd unwaith iddi ddechrau?

“Doedd y panel cymeradwyo mabwysiadwyr ddim yn rhy ddrwg o gwbl. Rwy’n gwybod bod llawer o bobl yn gorfeddwl am y peth ac yn ei ofni, ond roedd e’n iawn. Dywedodd fy ngweithiwr cymdeithasol, Ruth, wrthyf ymlaen llaw y dylai fod yn syml yn fy achos i, ac roedd hynny’n wir!

“Dydyn nhw ddim yn ceisio’ch dal chi allan”

“Mewn ac allan – ond byddai’r panel paru gydag un bach yn stori wahanol gan fod llawer mwy o newidynnau”

“Flwyddyn ar ôl dechrau’r broses fabwysiadu roedd gen i blentyn bach!”

“Roedd y broses gyfan yn llyfn, roedd rhai cymhlethdodau ar hyd y ffordd, sy’n gallu digwydd, ond dyma’r sefyllfa – mae pobl yn gweithio’n galed iawn yn y maes hwn ac maen nhw dan bwysau”

“Flwyddyn ar ôl dechrau’r broses roedd gen i blentyn bach!”

Gwnaeth Bae’r Gorllewin ddathlu pwysigrwydd gofal maeth a chysylltiadau da rhwng gofalwyr a mabwysiadwyr y llynedd, ychwanegodd Gavin:

“Roedden nhw’n anhygoel! Mor gefnogol a chymwynasgar”

“Digwyddodd y cyfan mor gyflym yn ystod y cyfnod pontio o leoliad y gofalwyr. Gofynnwyd i mi’n syth a oeddwn am fynd ati i gymryd drosodd a dechrau’r cyfrifoldeb rhiant”

Mae llawer o waith a pharatoi ar gyfer y cyfnod pontio pwysig o’r gofalwyr maeth i’r rhieni mabwysiadol. Chwaraeodd Gavin ei ran yn aruthrol yn y broses, gan ddysgu a datblygu sgiliau newydd i gynorthwyo’r broses.

“Gwnes i deganau ac eitemau bach gyda fy wyneb arnyn nhw. Fe wnaethon ni hefyd ddefnyddio pethau fel fideo. Yn eithaf cyflym roedd yr un bach yn fy adnabod, a oedd yn galonogol”

Dechreuodd Gavin a’r un bach ymgartrefu yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig cyn y pandemig. Roedd yr un bach ychydig yn rhy fach i werthfawrogi cyfnod yr ŵyl yn llawn ond roedd yn dal i fod yn amser hudolus wrth gwrs.

“Mae e’ mor wydn ac yn fachgen bach go iawn mewn gwirionedd”

“Yn ystod y flwyddyn a hanner ddiwethaf rwy’n credu ei fod wedi fy neffro ychydig o weithiau’n unigyn ystod y nos”

“Yn ystod y diwrnod cyntaf gartref, roedd wedi setlo ar gyfer ei gyntun ar yr adeg arferol. Roedd fel bod popeth yn dod at ei gilydd ar unwait”

“Mae rhwyddineb y broses newid o ofal maeth wedi bod o gymorth mawr wrth ymgartrefu. Rwy’n gwybod na fydd y broses yr un peth i bawb ond yn fy achos i, roedd yn eithaf perffaith”

“Mae e’n bwyta’n dda ac yn cysgu’n dda”

Nawr, symudwn ymlaen yn gyflym at y gwanwyn a’r cyfyngiadau symud.

“Mae’n newid mor fawr, byw bywyd cymdeithasol un funud ac wedyn bod yn y tŷ, dim ond chi’ch dau, roedd e’n rhyfedd iawn”

“Roedd gennym drefn ddyddiol eisoes, a oedd wir wedi helpu – roedd y cyfyngiadau symud wedi newid llawer o bethau. Roeddem yn cymryd rhan mewn gweithgareddau a grwpiau chwarae y rhan fwyaf o ddyddiau – gwahanol bethau fel chwarae synhwyraidd”

“Yn sydyn, roedd yn rhaid i ni aros yn y tŷ ac yn ein hardal leol”

“Mae’n newid mor fawr, byw bywyd cymdeithasol un funud ac wedyn bod yn y tŷ, dim ond chi’ch dau, roedd e’n rhyfedd iawn”  “Helpodd y tywydd yn fawr iawn ac mae’n rhaid i chi wneud y gorau or hyn sydd gennych. Rydych chi’n meithrin perthynas fwy agos wrth feddwl am bethau newydd yn y fan a’r lle a gwneud pethau na fyddech fel arfer yn meddwl eu gwneud”

Llawer o ddychymyg a gwydnwch felly.

“Na, dwyt ti ddim yn gallu rhoi’r past dannedd yn y tostiwr”

“Na, dwyt ti ddim yn cael dringo i mewn i’r peiriant golchi chwaith”

“A NA, dwyt ti ddim yn gallu rhoi fy ffôn yn y bath!”

“Pan fydd yn camymddwyn, fel y mae wedi gwneud ar adegau yn ystod y cyfyngiadau symud, eich greddf gyntaf yw gofyn ‘ydy hyn oherwydd ei fod wedi ei fabwysiadu?”

Mae’r plant sy’n dod drwy’r gwasanaeth mabwysiadu i gyd yn wahanol gyda straeon cefndir eang. Wrth gwrs, mae rhai wedi profi mwy o drawma nag eraill ac efallai y bydd angen cefnogaeth ychwanegol arnynt, ac mae technegau magu plant sy’n esblygu’n gyson fel PACE sy’n helpu rhieni i greu atodiadau a sicrhau perthnasoedd.

“Yn y pen draw, rwy’n gwybod ei hanes a stori ei fywyd yn dda iawn”

“Ydy, mae wedi ei fabwysiadu ond fyddwn i ddim yn ei drin yn wahanol i unrhyw blentyn arall”,
meddai Gavin.

Pan fydd yn camymddwyn, fel y mae wedi gwneud ar adegau yn ystod y cyfyngiadau symud, eich greddf gyntaf yw gofyn ‘ydy hyn oherwydd ei fod wedi ei fabwysiadu’

“Na, mae’n blentyn bach deallus sy’n ceisio eich profi chi a’i ffiniau”

“Rwy’n atgyfnerthu ei ffiniau’n gyson, gan fod yn gyson ac yn gadarn”

“Ond mae gwybod am ei gefndir a gwybodaeth am yr hyn a allai godi yn y dyfodol yn ddefnyddiol
iawn”

Dechreuodd yr un bach yn y feithrinfa yn ystod cyfyngiadau’r pandemig a sylwodd Gavin ar rai newidiadau’n gyflym.

“Ers mynd i’r feithrinfa mae wedi gwella llawer ond mae hefyd wedi dysgu arferion gwael hefyd!”

Mae wedi gweld plant eraill yn gwneud pethau heb gael eu cosbi ar eu cyfer ac wedi rhoi cynnig ar hynny gartref hefyd!”

Mae’n ymddangos bod y ddau wedi cadw ei gilydd ar flaenau eu traed yn ystod y cyfyngiadau symud felly. A oes siawns y bydd Gavin yn mabwysiadu eto? Brawd neu chwaer efallai, os bydd y cyfle’n codi?

“Mae un yn ddigon ar hyn o bryd. Mae wedi’i adeiladu fel plentyn tair oed ac mae e’ mor brysur.

“Mae wedi dwlu ar y lleoedd lleol rydym wedi dod o hyd iddynt yn ystod y cyfyngiadau symud, fel afonydd. Fel y dywedais, bachgen go iawn. Nid yw’n codi cerrig i’w taflu i’r afon yn unig, ond cerrig mawrion hefyd. Mae’n un bach cryf”

“Mae’n hapus i eistedd yn yr afon hefyd. Mae e’ wrth ei fodd! Mae rholio yn y mwd yn rhywbeth arall y mae wedi ei fwynhau yn ystod y cyfyngiadau symud”

“Mae’n hapus i eistedd yn yr afon hefyd. Mae e’ wrth ei fodd! Mae rholio yn y mwd yn rhywbeth arall y mae wedi ei fwynhau yn ystod y cyfyngiadau symud”

“Ond pe bai’r rhieni biolegol yn cael un arall yn y dyfodol, pwy a ŵyr?”

“Rwy’n gwybod bod rhai pobl yn cael trafferth ond dydw i ddim yn meddwl y byddaf yn cael plentyn arall sy’n cysgu ac yn bwyta cystal â’r un bach hwn”

Catch chapter 2 here 

 

Are you considering adoption? Click here for more information on the process. Don’t forget to follow our social media for more updates on adoption life and the support available to to you.

#OurFamily

Ein Teulu – Cyfres FideoBlwyddyn Newydd, dechrau newydd… yna taith ryfeddol